Scroll To Top

 

 

 

 

Elusen y flwyddyn

Ty Gobaith/ Hope House

Blwyddyn yma, rydym wedi dewis cefnogi ‘Hope House Children’s Hospices’ fel ein Elusen y Flwyddyn. Byddwn yn cefnogi Hope House a Tŷ Gobaith i codi arian trwy gydol y flwyddyn ac ar y 1af Gorffennaf, byddwn yn cefnogi (ac yn cymeryd rhan yn) y Snowdon Trek.

Mae ‘Hope House’ yn Sir Amwythig a Tŷ Gobaith yn Gogledd Cymru yn darparu gofal nyrsio arbennigol i blant hefo amodau mor difrifol nad ydynt yn disgwyl cyrraedd oed oedolyn. Mae ein timau ymroddedig yn cefnogi’r teulu cyfan trwy oes y plentyn ac ymhellach i’r dyfodol. Mae ein gofal a chefnogaeth safon uchel yn cynnwys arhosiadau yn Hope House a Tŷ Gobaith, gwasanathau profedigaeth a chynghori, gofal yn y cartref, cefnogaeth i brodydd a chwiorydd a tîm o weithwyr cymdeithasol. Fel elusen cofrestredig, mae ‘Hope House’ a Tŷ Gobaith angen codi £6 miliwn y flwyddyn. Mae hynny bell dros £100,000 pob wythnos i alluogi nhw i barhau i rhoi cefnogaeth i blant a teuluoedd yn Gogledd a Chanolbarth Cymru, Sir Gaer a Sir Amwythig.

I gael mwy o wybodaeth am y gwaith arbennig sy’n cael ei wneud yn Hope House a Tŷ Gobaith, neu i ymuno a’r sialens ‘Trec y Wyddfa’ ymwelwch â www.hopehouse.org.uk
(Rhis Elusen Cofrestredig 1003859)