Portffolio
Yn sional, rydym yn gweithio hefo amrywiaeth mawr o gwsmeriaid, o busnes lleol i Asiantaethau Llywodraethol. Darllennwch mwy am ein gwaith isod i weld os fedrwn ni helpu eich busnes neu clwb.
Fel cyflenwr i awdurdodau lleol yn yr ardal lleol ac ymhellach, rydym wedi sefydlu ein hunain fel un o’r brif gyflenwyr o ddillad wedi’i haddurno a cynhyrchion hyrwyddiadol. Rydym yn cyflenwi dillad wedi printio a brodio ar gyfer staff, nwyddau a dillad i digwyddiadau unigryw yn ogystal ac arwyddion, baneri a nwyddau papur i’w ddefnyddio tryw’r flwyddyn.
Rydym wedi ennill tendr i gyflenwi cynhyrchion hyrwyddol i Asiantaethau Llywodraethol. Mae hyn yn cynnwys boteli, pinnau ysgrifennu, nywddau papur a mwy ar gyfer sioeau masnach a prosiectau cymunedol.
Mae ein gwaith hefo Asiantaethau Llywodraethol ac Awdurdodau Lleol yn dyst i’n gwasanaeth cwsmer gwych a’n nywddau o ansawdd uchel.
Rydym yn mwynhau gweld busnes lleol yn llwyddo. Cafodd Sional ei hadeiladu o ddim felly rydym yn ymwybodol iawn pa mor annodd ydyw i sefydlu a rhedeg busnes. Oherwydd hyn, pan ydych yn dod i Sional, byddwch yn derbyn yr un gwasanaeth trylwyr fel pe bai chi yn cwmni rhyngwladol. Gadewch i ni gymeryd y cymhlethdod o gyflenwi dillad gwaith a cynhyrchion hyrwyddol i chi.
Rydym yn gweithio hefo masnachwyr lleol, bwytai, siopau, cartrefi gofal a llawer, llawer mwy.
Os ydych yn chwilio am ddillad gwaith, pinnau ysgrifennu hyrwyddol, cwpannau neu unrhyw beth arall, cysylltwch â ni a gallwn ni helpu hefo eich anghenion.
Rydym wedi bod yn ffodus iawn yn Sional i ennill cytundebau hefo cwmniau cenedlaethol i gyflenwi dillad a nwyddau hyrwyddol. Rydym yn y safle arbennig i allu cynnig gwasanaeth llawn o’r cychwyn, hyd at pacio a chyflwyno. Diolch i’n cyfleuster warws a’n gallu i ddal stoc, rydym yn gallu gweithio law yn llaw hefo cwmniau yn lle gweithio iddynt. Rydym yn deallt pa mor annodd ydyw i drefnu digwyddiad marchnata neu arddangos mewn sioe fasnach – felly gadewch i ni helpu chi.
Fedrwn ni gyflenwi y nwyddau, dal y stoc, darparu gwasanaeth pacio ac anfon eich nwyddau at y lleoliad i chi. May hyn yn galluogi chi i ganolbwyntio a gwneud eich digwyddiad yn un llwyddiannus.
Os fuasai’n fuddiol i’ch cwmni cael gwasanaeth pacio a neu dal stoc, gadewch i ni wybod i drefnu cyfarfod hefo ni.
Brodio gwisg ysgol oedd man cychwyn Sional. Yn y cychwyn, pan oedd y cwmni yn rhedeg un peiriant brodio allan o ystafell rhydd yn y ty, wnaethon ni gytuno i gyflenwi dillad ysgol i’r ddau ysgol yn y pentref. Erbyn hyn, rydym wedi tyfu a tyfu i’r fan ydan ni rwan. Rydym yn falch i ddweud bod ni dal yn weithio’n agos efo’r ddau ysgol yn y pentref ac yn cyflenwi gwisg ysgol iddynt.
Nid gwisg ysgol yn unig sy’n cael ei anfon o Sional. Rydym yn gweithio yn agos hefo Prifysgolion a cholegau ac yn cyflenwi nywddau o chwpannau i faneri ar gyfer digwyddiadau, gwisg staff, nwyddau hyrwyddol i chymdeithasau ac hefyd dillad i myfyrwyr.
Os ydych yn meddwl gall eich ysgol neu choleg elwa drwy weithio hefo ni, cysylltwch a ni.
Gall Sional gynnig gwasanaeth arbennig i glubiau a timau chwaraeon, cymdeithasau a grwpiau trwy ein Siopau Clwb. Mae ein gwefan Siopau Clwb yn galluogi ein cwsmeriaid i gynnig ei nwyddau ar siop unigrwy fel bod aelodau o’r tim neu glwb yn gallu prynu nwyddau heb i’r clwb cymeryd rhan. Mae hyn yn gadeal i’r clwb ganolbwyntio ar y peth sy’n fwyaf bwysig – sef rhedeg y clwb.
Er enghraifft, os ydych yn rhedeg clwb tenis, fedrwn ni gytuno prisiau a nwyddau hefo chi, llwytho y nwyddau ar y siop a wedyn gall aelodau y clwb tenis brynu y nywddau o’r siop. Fe wnawn ni wedyn addurnio y nwyddau ac anfon allan i’ch aelod. Os cytynwyd yn flaenorol, fe wnawn ni dalu chi rhywfaint o gomisiwn.
Ni allai fod yn haws! Bydd eich aelodau yn tyfu eich brand trwy wisgo ei dillad newydd a gallwch chi wneud rhywfaint o bres ychwanegol.
Am fwy o wybodaeth am y siopau clwb, cysylltwch a ni.
Yn Sional, rydym yn hoffi rhoi yn ôl i’r cymdeithas pob hyn a hyn. Am y rheswm yma, rydym wedi dewis Hope House Children’s Hospice fel ein Elusen y Flwyddyn. Ar wahân i cefnogi elusennau hefo cyfraniadau ariannol, rydym hefyd yn cyflenwi nywddau i’r elusennau fel ei bod yn gallu gwerthu codi arian at yr elusen neu i hyrwyddo yr elusen.
Yn ogystal a chefnogi elusennau hefo rhoddion, rydym yn gweithio hefo elusennau ar draws Prydain sydd angen dillad neu nwyddau hyrwyddol. Mae yna bwyslais mawr ar yr elusennau i hyrwyddo ei hunain er mwyn sicrhau cyllid i gario ymlaen. Dyma lle mae Sional yn gallu helpu. Mae un o’n cwsmeriaid yn rhedeg elusen sy’n cefnogi pobl hefo materion iechyd meddwl. Rydym yn cyflenwi dillad i’r staff a gwirfoddolwyr ac hefyd nwyddau hyrwyddol iddynt ddefnyddio mewn sioeau masnach a digwyddiadau lleol.
Os ydych yn gwybod am elusen fuasai’n elwa drwy gweithio hefo ni, gadewch i ni wybod a byddwn yn hapus iawn i drefnu cyfarfod hefo nhw.