Telerau ac Amodau
Telerau Talu
Bydd holl nwyddau yn cael ei gyflenwi yn erbyn anfoneb profforma oni bai bod ffurflen cyfrif credid wedi cael ei lenwi a’i dderbyn gan Sional. Bydd holl archebion cychwynnol ar sylfaen profforma oni bai bod telerau penodol wedi’u cytuno cyn gosod yr archeb. Gall cyfrif gael ei agor ar ôl derbyn cyfeiriadau addas. Mae taliadau i’w gwneud o fewn 30 diwrnod o dyddiad yr anfoneb. Fedrwn ni ymarfer ein hawl i godi llog yn ôl y deddf ‘Late Payments of Commercial Debts [interest] 1998’ os nad ydym yn derbyn taliad yn ôl ein amodau credid.
Dulliau Talu
Rydym yn derbyn taliadau BACS, cardiau credyd/debyd, taliadau siec a Paypal.
Polisi Samplau
Mae nwyddau sengl yn cael ei defnyddio yn aml er mwyn gwerthuso eu addasrwydd.
Fel arfer, rydym yn hapus i rhoi samplau i chi am ddim os ydynt ar gael.
Gall nwyddau hywryddiadiol gael ei anfon allan yn blaen neu wedi’u brintio. Mae samplau cyn-gynhyrchu o’ch archeb ar gael fel arfer ond maent yn daladwy.
Mae yna ffi ailstocio o 20% ar bob sampl o ddillad sy’n dod yn ôl a sydd ddim yn cael ei ddefnyddio mewn archeb. Os yw’r samplau yn dod yn ôl o fewn 21 diwrnod, mewn cyflwr derbyniol a heb cael ei gwsigo, dim ond y ffi ailstocio fydd yn daladwy. Byddwn yn codi tâl arnoch am bris y nwydd yn ogystal ag unrhyw taliadau cerbyd sy’n berthnasol am unrhyw beth sydd yn dod yn ôl mewn cyflwr annerbyniol, neu ar ôl 21 diwrnod. Serch hyn, fe gewch chi ddefnyddio eich samplau fel ran o’ch archeb a gallen nhw gael ei brintio neu brodio cyn belled bod nhw heb gael eu gwisgo. Ni fydd ffi ailstocio yn cael ei godi yn yr achos yma.
Prisiau
Mae ein prisiau i gyd yn amodol ar TAW (ar y gyfradd gyfredol) yn ogystal a prisau sefydlu a cludo pan yn amodol. Mae holl brisiau yn dibynnu ar y darlun terfynnol.
Cludiant ac Amseroedd Arweiniol
Mae’r dyddiad danfon sy’n cael ei dyfynnu atoch chi yn arweiniad yn unig a gallent newid. Fedrwn ni drefnu cludiant cyflymach ar rhai achlysuron ond byddwn yn codi am hyn. Mae’r amersoedd arweiniol sy’n cael ei dyfynnu atoch chi yn cychwyn pan mae’r darlun yn cael ei gytuno – nid pan ydych yn gosod eich archeb. Mae amseroedd cludo yn amrywio yn ôl pa nwydd ydych yn archebu.
Amseroedd Agor
Rydym ar agor rhwng yr oriau o 9yb hyd at 5yp o Dydd Llun hyd at Dydd Gwener. Rydym ar gau ar benwythnosau a gwyliau y banc. Os oes gennych archebion sydd i fod i gyrraedd ar benwythnos neu gwyl y banc, bydd yr archeb yn cyrraedd chi y diwrnod gwaith nesaf.
Canslo
Byddwn yn codi yn llawn am unrhyw archeb sy’n cael ei ganslo pan mae’r archeb wedi fynd i gael ei gynhyrchu. Ni fyddwn yn codi pris ailstcocio, pris dylunio a pris cludo ar archebion sydd ddim wedi fynd i cael ei gynhyrchu.
Ail-dylunio eich logo
Os nad oes ganddoch chi eich logo yn y fformat addas i brintio neu brodio, fedrwn ni drefnu i gael eich logo ei ail-ddylunio am bris o £25
Nifer archebu lleiaf
Nid oes nifer archebu lleiaf ar ddillad – fedrwch chi archebu un or oes angen. Mae gan nwyddau hyrwyddiadol niferoedd archebu lleiaf ac maent yn amrywio yn ôl pa nwydd ydych yn archebu.
Cyswllt
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth ynglyn a’r telarau ac amodau yma, ysgrifennwch atom ni drwy e-bost i sales@sional.co.uk neu trwy’r post i Unit 5a, Stad Diwydiannol Llanfairfechan, Llannerch Rd, Llanfairfechan, Conwy. LL33 0EB